14 Gorffennaf 2016

Annwyl Syr / Madam

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Sefydlwyd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Pwyllgor) gan y Cynulliad ar 28 Mehefin 2016, a'i gylch gwaith yw 'Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol'.

Ceir rhagor o fanylion am rolau a chyfrifoldebau ehangach pwyllgorau'r Cynulliad yn yr adroddiad, 'Pwyllgorau yn y Pumed Cynulliad', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Mehefin 2016.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Er mwyn ei helpu i lywio'i flaenraglen waith, mae'r Pwyllgor am glywed beth yr ydych chi'n credu y dylai ei flaenoriaethau fod yn y Pumed Cynulliad.  Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn awyddus i wybod beth, yn eich barn chi, yw'r prif feysydd y dylid rhoi sylw iddynt yn y 12 mis nesaf.

 

 

Cyflwyno tystiolaeth

Mae gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad, y dylid eu hystyried yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor, ar gael yn Atodiad.  Os hoffech ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, llenwch y ffurflen sydd ynghlwm. Dylid dychwelyd copi electronig o'ch tystiolaeth at: SeneddCYPE@cynulliad.cymru

Fel arall, ar ôl ei llenwi, gallwch anfon copi caled o'r ffurflen at:

Sarah Bartlett
Dirprwy Glerc
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA.

Dylai ymatebion gyrraedd erbyn dydd Gwener 9 Medi 2016.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Marc Wyn Jones, Clerc y Pwyllgor ar 0300 200 6363.

Yn gywir

Lynne Neagle AC / AM
Cadeirydd / Chair


 

Atodiad

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth

1. Mae polisi'r Cynulliad yngylch datgelu gwybodaeth ar gael; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn ar gael drwy gysylltu â'r Clerc.

Cyflwyno tystiolaeth

2. Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch ffurflen at SeneddPPIA@cynulliad.cymru

3. Dylai ymatebion gyrraedd erbyn 9 Medi 2016.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

4. Wrth baratoi eich tystiolaeth, cadwch y canlynol mewn cof:

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5. Mae'r Cynulliad yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy'n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau.  Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

 

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch Lucida Sans, sy'n ffont glir sans-seriff. 

·                     Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                     Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno.

6. Pryd bynnag y bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word (ac ar y ffurflen a ddarperir) er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch.  Pan fyddwch chi'n cyflwyno sgan neu PDF, yn enwedig pan fyddant yn llythyrau wedi'u llofnodi neu'n dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno'r ddogfen Word wreiddiol gyda hi.

7. Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o’r rhain ar gael ar gais.  Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.  Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a'r atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.